Pride Cymru first created a map of lost Cardiff LGBT venues in 2018. Many people contributed their memories and after it was published even more commented – and sometimes corrected our geography.

pride banner2

Welsh bilingual logo Colour PNG

Pride Cymru first created a map of lost Cardiff LGBT venues in 2018. Many people contributed their memories and after it was published even more commented – and sometimes corrected our geography.

That first map mainly covered entertainment venues so in 2021, with support from the Heritage Lottery Fund (Cymru), we created a revised, updated and augmented version which now includes many of the organisations created by and for our community in the 20th century.

Because of the historic erasures of marginalised communities, we are aware that there are still more hidden histories and venues that welcomed us to be uncovered, particularly those used by LGBT+ people of colour and trans people in Cardiff. We are committed to continuing to add to the map as we uncover more of our myriad histories. If you have information that would help with that, we would love to hear from you via our Lost LGBT Cardiff  Facebook page or through our contact form.

Additionally, if you have items relating to these venues, St Fagans National Museum of History is actively collecting Wales’ LGBTQ+ history, building up the national collection to be fully representative of all the LGBTQ+ community across Wales. They welcome objects, documents, and photographs that represent both LGBTQ+ history and current LGBTQ+ lived experiences. The collection already includes a sign from the Kings Cross pub and flyers from The Golden Cross, Atlantica and Exit.

All the quotes on the venues are stories sent to us by people who lived and loved in queer Cardiff and we thank everyone who has contributed including Francis, Rick, Zoe, Lewis, Mike, Adam, Ash, Jools, Kath, Lynne, Belinda, Howard and many others. Any errors are purely ours.

The 2021 version was researched by Dr Daryl Leeworthy, written by David Llewellyn, who also provided photographs, and edited by Lisa Power for Pride Cymru. The online database of locations was edited and uploaded by Dr Alessandro Ceccarelli.

Note: Entries with “Click here” in the description lead to further information.

Download our Self-Guided Walk: Cardiff LGBTQ+ Tour

Explore the secrets of lost historic LGBTQ+ Cardiff at your own leisure, with our first downloadable Self-Guided Walk.

Caerdydd LGBT Coll

Fe wnaeth Pride Cymru greu map o leoliadau LGBT coll Caerdydd am y tro cyntaf yn 2018. Cyfrannodd llawer o bobl eu hatgofion, ac ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, cafwyd mwy fyth o sylwadau – weithiau yn cywiro ein daearyddiaeth.

Roedd y map cyntaf hwnnw’n cynnwys lleoliadau adloniant yn bennaf. Felly, yn 2021, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri (Cymru), fe wnaethon ni greu fersiwn ddiwygiedig, wedi’i diweddaru a’i hehangu, sydd bellach yn cynnwys llawer o’r sefydliadau a grëwyd gan ac ar gyfer ein cymuned yn yr 20fed ganrif.

Oherwydd bod cymunedau ar yr ymylon wedi cael eu dileu yn y gorffennol, rydyn ni’n gwybod bod mwy o hanesion a lleoliadau cudd yn aros i gael eu datgelu, yn enwedig y rhai a ddefnyddiwyd gan bobl LGBT+ croenliw a phobl traws yng Nghaerdydd. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ychwanegu at y map wrth i ni ddatgelu mwy o’n hanesion. Os oes gennych wybodaeth a fyddai’n helpu gyda hynny, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych trwy ein tudalen Facebook Lost LGBT Cardiff neu drwy e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Yn ogystal, os oes gennych eitemau yn ymwneud â’r lleoliadau hyn, mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan wrthi’n casglu hanes LGBTQ+ Cymru, gan adeiladu’r casgliad cenedlaethol i fod yn gwbl gynrychioliadol o’r gymuned LGBTQ+ ledled Cymru. Maen nhw’n croesawu gwrthrychau, dogfennau a ffotograffau sy’n cynrychioli hanes LGBTQ+ a phrofiadau bywyd LGBTQ+ presennol. Mae’r casgliad eisoes yn cynnwys arwydd o dafarn y Kings Cross a thaflenni o’r Golden Cross, Atlantica ac Exit.

Mae’r holl ddyfyniadau am y lleoliadau yn straeon a anfonwyd atom gan bobl a oedd yn byw ac yn caru yng Nghaerdydd a diolchwn i bawb sydd wedi cyfrannu gan gynnwys Francis, Rick, Zoe, Lewis, Mike, Adam, Ash, Jools, Kath, Lynne, Belinda, Howard a llawer o rai eraill. Os oes gwallau, ein gwallau ni yw’r rheini.

Ar gyfer fersiwn 2021, Dr Daryl Leeworthy wnaeth y gwaith ymchwil, cafodd ei ysgrifennu gan David Llewellyn, a ddarparodd ffotograffau hefyd, ac fe gafodd ei olygu gan Lisa Power ar gyfer Pride Cymru. Golygwyd a llwythwyd y gronfa ddata ar-lein o leoliadau gan Dr Alessandro Ceccarelli.

Nodyn: Mae cofnodion gyda “Cliciwch yma” yn y disgrifiad yn arwain at wybodaeth bellach.

Dadlwythwch ein Taith Gerdded Hunan-Arweinwyd: Taith Cerdded LHDTC+ Caerdydd.

Darganfyddwch gyfrinachau cudd LHDTC+ hanesyddol Caerdydd yn eich amser hamdden, gyda’n Taith Gerdded Hunan-Arweinwyd gyntaf a gellir ei lawrlwytho.